Sefydlwyd Addysg Gymunedol Gwynedd a Môn yn 2006, fel rhwydwaith o sefydliadau yn cynnig profiadau dysgu i oedolion yn yr ardal. Y prif ddarparwyr yw Grŵp Llandrillo Menai, o dan eu brand Potensial, gydag Addysg Oedolion Cymru yn cyflwyno peth darpariaeth ar draws yr ardal.
Mae ystod eang o gyrsiau ar gael ar draws siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych, i helpu dysgwyr sy’n oedolion i:
- Ddatblygu sgiliau newydd
- Ddychwelyd i addysg
- Ehangu eu gwybodaeth mewn pynciau sydd o ddiddordeb
- Baratoi ar gyfer dysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth
Mae Addysg Gymunedol Gwynedd a Môn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu ffurfiol ac anffurfiol, o gyrsiau lefel sylfaen yr holl ffordd i gymwysterau proffesiynol – sy’n cael eu cyflwyno’n ddwyieithog ble’n bosib, ac sy’n hygyrch i bawb.
