Dilyniant

Gwneud Cynnydd ar Eich Cyflymder Chi

Yng ngwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Gwynedd a Môn, credwn y dylai pob dysgwr fod â phwrpas clir yn gyrru eu siwrnai addysgiadol. Pan rydych yn cofrestru i un o’n cyrsiau cymunedol, byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ddiffinio deilliannau dysgu cyraeddadwy yn cyd-fynd â’ch nodau chi.

I rai, gallai hynny olygu caffael sgiliau newydd i hybu eu cyflogadwyedd neu i gymhwyso ar gyfer newid gyrfa. Efallai y bydd eraill yn anelu i barhau ar eu llwybr dysgu ar lefel uwch. Ac, i lawer, gwell integreiddiad cymdeithasol, iechyd, a llesiant cyffredinol yw’r blaenoriaethau. Nid yw gwneud cynnydd bob amser yn gysylltiedig ag ennill cymwysterau. Cynigiwn ystod o gyrsiau heb achrediad ar gyfer y rhai hynny sy’n dychwelyd i addysg ac eisiau ymagwedd mwy anffurfiol. Yr allwedd yw i’ch cadw’n symud ymlaen, un cam ar y tro.

Beth bynnag yw eich nodau, byddwn yn eich helpu i gynllunio llwybr cynnydd i’ch cael chi yno!

Ar bob cam, byddwch yn derbyn y gefnogaeth a’r hyblygrwydd rydych ei angen i gydbwyso eich astudiaethau gyda gwaith, teulu, a chyfrifoldebau eraill. Ein hymrwymiad yw i’ch grymuso chi i gyrraedd eich fersiwn chi o lwyddiant trwy addysg.